Adnoddau print


Mae’r adnoddau canlynol wedi cael eu datblygu mewn prosiectau blaenorol, neu’n cael eu defnyddio’n rheolaidd mewn gweithgareddau eraill gan CEWC-Cymru.

E-bostiwch cewc@wcia.org.uk er mwyn archebu. Oni nodir fel arall, mae’r holl adnoddau’n ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ac mae’r prisiau’n cynnwys pris postio.



Skills for Democracy (gweler darn i flasu)

Pecyn addysgu cynhwysfawr i annog myfyrwyr 13-16 mlwydd oed i gyfranogi mewn democratiaeth.

Pris: £10
Neu ar gael am ddim pan ymunwch â’n system Aelodaeth Ar-leinSaesneg yn unig


Dinasyddion sy'n Meddwl
(gweler darn i flasu)

Pecyn cyflwyno ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2 sydd am annog meddwl beirniadol yn y dosbarth.

Pris: £6 (aelodau) / £8 (eraill)
Neu ar gael am ddim pan ymunwch â’n system Aelodaeth Ar-lein.


Pecyn Briffio Model y Cenhedloedd Unedig

Pecyn canllaw 32 tudalen, y gellir ei lungopïo, i drefnu a chymryd rhan mewn cynhadledd Model y Cenhedloedd Unedig.

Pris: £6 (aelodau) / £8 (eraill)
Neu’n cael ei ddarparu am ddim os byddwch yn cymryd rhan yn un o’n cynadleddau Model y CU.



Llawlyfr Dadlau

Arweiniad i ddadlau ar gyfer athrawon, disgyblion a beirniaid. Mae’n cynnwys arweiniad ar bob agwedd o sgiliau dadlau, rheolau cystadleuaeth ddadlau genedlaethol CEWC-Cymru, a chyngor ar sefydlu eich clwb dadlau eich hun.

Pris: £3 (am ddim os ydych yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru). Saesneg yn unig



Taflen gwybodaeth cyffredinol CEWC-Cymru

Taflen lliw yn crynhoi’n gweithgareddau i gyd.

Pris: am ddim


Crynodeb o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Poster amryliw A2, i'w ddefnyddio fel adnodd addysgol neu i'w arddangos.
Pris: 25c neu £6 am 30 copi (angen talu cludiant)

Mae fersiwn blaenorol o'r poster ar gael fel dogfen PDF - cliciwch yma i'w lawrlwytho am ddim (155Kb).




Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol

Llyfryn a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (CCU) Cymru.

Pris: 25c neu £5 am 30 copi (angen talu cludiant)




Pasbort i'r Cenhedloedd Unedig

Cyflwyniad dwyieithog CCU Cymru i waith y sefydliad rhyngwladol.

Pris: £1 (angen talu cludiant)

 

 

 

 

 

 

Skills for Democracy

 

Dinasyddion sy'n Meddwl

 Model UN

Debating Handbook

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol