a:1:{s:7:"content";s:2153:"

Senedd Ieuenctid Ewropeaidd

  

Menter ryngwladol yw’r Senedd Ieuenctid Ewropeaidd (EYP) sy’n galluogi pobl ifanc i fynd i’r afael â materion Ewropeaidd. Bydd myfyrwyr yn cynrychioli gwahanol bwyllgorau Senedd Ewrop ac yn dadlau ar bynciau megis diogelwch, hawliau dynol, y celfyddydau, newid yn yr hinsawdd a mewnfudo.

»  Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd y Grŵp Cydweithredol yn cefnogi digwyddiadau ein EYP am y 3 blynedd nesaf.

Mae CEWC-Cymru’n trefnu dau ddigwyddiad EYP bob blwyddyn: Fforwm Gogledd Cymru a Fforwm De Cymru. Gwahoddir pob ysgol yng Nghymru i anfon hyd at 6 myfyriwr rhwng 15 a 17 mlwydd oed. Os  bydd mwy na 10 ysgol yn gwneud cais mewn unrhyw ranbarth, byddwn yn dewis 10 ysgol ar hap i gymryd rhan. Bydd un tîm o bob Fforwm yn cael ei ddewis i gymryd rhan mewn Sesiwn Cenedlaethol EYP y DU'r flwyddyn ysgol ddilynol, felly rhaid i ddisgyblion fod ym Mlwyddyn 12 neu’n is i fod yn gymwys ar gyfer sesiynau Cymru.

Mae EYP yn galw ar aelodau tîm i weithio gyda’i gilydd i ddangos eu sgiliau o weithio fel tîm, cyfathrebu a datblygu syniadau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran ar arddull dadlau.

»  Digwyddiadau'r dyfodol


Cefnogi Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang

";}

EYP

Cysylltiadau

Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.

Cysylltiadau:

  • EuropaGo!
    Gemau rhyngweithiol i'ch helpu i ddysgu mwy am yr Undeb Ewropeaidd.
  • EuropaWorld
    Papur newydd arlein yn rhad ac am ddim, yn trafod materion Ewropeaidd a byd-eang.
  • Ewrop yn y DU
    Porth ar gyfer gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol am Ewrop.
  • Pwyllgorau Senedd Ewrop
    Ewch fan hyn os ydych i fod i gynrychioli pwyllgor ac am ddysgu beth mae'n ei wneud yn y Senedd go iawn.
  • Senedd Ieuenctid Ewropeaidd
    Gwybodaeth am y fenter EYP sy'n digwydd ar draws Ewrop.

European Youth Parliament

Lle mae hynny ar gael, bydd hofran dros y delweddau‘n dangos disgrifiad; bydd clicio‘r ddelwedd neu‘r label yn arddangos y ddelwedd yn ei maint llawn