Gwers P4C enghreifftiol
Bydd ysgolion yn aml yn ei gweld hi’n ddefnyddiol i weld sesiwn P4C gan arweinydd profiadol ar waith, cyn iddynt roi cynnig ar y dull eu hunain.
Gallwn ddarparu’r sesiynau hyn (a elwir yn ‘ymchwiliadau’ ym maes P4C) i unrhyw grŵp oedran, naill ai fel gwersi unigol neu ar y cyd ag un o’n sesiynau hyfforddi.
Yn ddelfrydol, dylid neilltuo 80 munud ar gyfer arddangosiad yn yr ystafell ddosbarth (neu efallai gyfnod byrrach ar gyfer disgyblion iau/llai eu gallu). Mae’n annhebyg y bydd y rhain yn wersi perffaith, gan na fydd y rhan fwyaf o’r disgyblion wedi arfer â P4C na’r arweinydd chwaith, a bydd angen cyflwyno’r rheolau sylfaenol i ddechrau. Ond maent yn ddelfrydol ar gyfer helpu athrawon i ddeall y ffordd mae’r dull yn gweithio.
Dyma’r prisiau:
| Gweithgaredd | Pris i Aelodau Gyswllt | Pris i eraill |
| Gwers enghreifftiol gydag 1 athro’n arsylwi | Rhad ac am ddim am y 90 munud gyntaf, ac yna £50 yr awr | £50 yr awr |
| Gwers enghreifftiol gyda mwy nag 1 athro’n arsylwi (ystyrir felly bod iddi elfen o hyfforddiant) |
£50 yr awr | £80 yr awr |
";}