Ym mis Tachwedd 2006 daeth hi’n orfodol i bob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig yng Nghymru sefydlu cyngor ysgol, ddylai gwrdd o leiaf 6 gwaith y flwyddyn.
Roedd CEWC-Cymru’n rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y mesur hwn, ac rydym wedi cyfrannu i’w wefan, Cynghorau Ysgol Cymru.
Mae cynghorau ysgol yn gam pwysig i alluogi plant i gael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, hawl gafodd ei osod i lawr yn Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Credwn y dylai pob disgybl feddu ar y sgiliau i rannu eu barn ac i gydweithio gydag eraill, gan alluogi cynghorau ysgol i gynrychioli barn y myfyrwyr sydd wedi eu dadrithio fwyaf hyd yn oed.
Gallwn hefyd ddarparu’r gefnogaeth ganlynol i ysgolion sy’n awyddus i sefydlu a chynnal cyngor ysgol effeithiol, neu i helpu disgyblion i ddysgu ynglÅ·n â democratiaeth mewn ffordd effeithiol.
Gallwn helpu disgyblion i gyfathrebu yn hyderus ac yn berswadiol, gweithredu ar sail pryderon yn yr ysgol; cyfarfod, cyfaddawdu a deall systemau democrataidd. Gallwn ddarparu’r hyfforddiant hwn ar ffurf sesiynau ar y cyd â staff a disgyblion. Cysylltwch â ni os hoffech drafod anghenion penodol o ran cwrs/cyrsiau i’ch ysgol.
Cost: £260 diwrnod llawn / £65 yr awr, ynghyd â threuliau llety/teithio yn ôl yr angen.
Gallwn gyflwyno gweithdai rhyngweithiol gyda dosbarthiadau unigol, yn ogystal â darlithoedd neu gyflwyniadau i grwpiau mwy.
Mae hawl gan bob ysgol/coleg sy’n aelod ar un ymweliad o hyd at 90 munud yn rhad ac am ddim am bob blwyddyn o Aelodaeth Gyswllt. Codir £25 am bob 30 munud am oriau ychwanegol ac ymweliadau dilynol. (£25 am bob 30 munud, heb oriau am ddim, i rai nad ydynt yn aelodau.)
Bwriad y pecyn hwn yw helpu pobl ifanc archwilio a gwerthuso’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn democratiaeth. Cafodd y sgiliau sy’n cael eu trafod eu rhoi ar restr fer ar ôl ymgynghori â 250 o bobl ifanc, a dyma nhw:
Mae myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau drwy gyfrwng gweithgareddau dosbarth ar 6 phwnc sy’n ymwneud â democratiaeth: Masnach Deg, Yr Ymgeisydd Delfrydol, Y Sector Gwirfoddol, Democratiaeth Anffurfiol, Rôl y Cyfryngau a Datganoli. Mae pob gweithgaredd yn cynnwys cynllun gwers, taflen wybodaeth am y pwnc, taflen sgiliau ac unrhyw daflenni gwaith angenrheidiol. Mae taflenni hunanasesu hefyd wedi’u cynnwys, sy’n defnyddio delwedd Parthenon Groeg gyda sgiliau wedi’u nodi ar y pileri.
Mae’r pecyn ar gael am ddim drwy Ddinasyddiaeth Heddiw, ein system aelodaeth ar-lein. Fel arall, mae pecynnau papur ar gael am £10 (Saesneg yn unig).
Yn ogystal ag ein pecyn Skills for Democracy, mae ein adnodd ar-lein yn cynnwys cynlluniau gwers ar Ddemocratiaeth a Chyfranogiad Gweithredol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.
Ymwelwch â’r dudalen gartref Dinasyddiaeth Heddiw am fwy o fanylion.
Rhwng 2003 a 2007 noddwyd ein gwaith ar ddemocratiaeth a chynghorau ysgol gan y Comisiwn Etholiadol.
|
|
|
|