Aelodaeth Gyswllt ysgol/coleg
Hwn yw cynllun aelodaeth traddodiadol CEWC-Cymru.
Mae dros 130 o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach yn aelodau cyfredol, a gallwch ymuno â nhw heddiw. Lawrlwythwch ffurflen ymaelodi (PDF, 192Kb), ei llenwi a’i hanfon yn ôl i’r cyfeiriad a nodir.
Buddiannau: (» Manylion llawn)
- Am ddim: ymweliadau ag ysgolion a gweithdai ar bynciau byd-eang
- Am ddim: sesiynau blasu ar Athroniaeth i Blant, cyfranogiad democrataidd a gwaith prosiect arall CEWC-Cymru
- Pris gostyngol ar gyfer sesiynau hyfforddiant mewn swydd
- Pris gostyngol ar gyfer cymryd rhan yn ein cynadleddau a’n digwyddiadau
- Pris gostyngol ar gyfer cyhoeddiadau CEWC-Cymru
- Am ddim: mynediad at gyngor, gwybodaeth ac adnoddau ar ddinasyddiaeth fyd-eang
- Cylchlythyrau a blaenoriaeth i dderbyn gwybodaeth drwy’r post am ddigwyddiadau, cystadlaethau a gweithgareddau eraill CEWC-Cymru
Tanysgrifiad blynyddol:
- Ysgol/coleg gyda llai na 500 o fyfyrwyr - £30
- Ysgol/coleg gyda 500-749 o fyfyrwyr - £40
- Ysgol/coleg gyda 750-999 o fyfyrwyr - £50
- Ysgol/coleg gyda 1000 neu mwy o fyfyrwyr - £60