Cefnogi ADCDF
Gall llawer o weithgareddau CEWC-Cymru helpu ysgolion i gyflwyno Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang (ADCDF).
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o sut y mae’n gwaith yn cefnogi’r targedau yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru Dealltwriaeth Gyffredin ar gyfer ADCDF yng Nghymru.
Ar waelod y dudalen hon mae cysylltiadau at wefannau eraill allai fod yn ddefnyddiol i chi yn y maes hwn.
Digwyddiadau a gweithgareddau i fyfyrwyr | Cysylltiadau at Ddealltwriaeth Gyffredin | |
| Cynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig | Cyfnod Allweddol 4 | SGILIAU – Cydweithio ag eraill: SGILIAU - Meddwl: |
| Ôl-16 | Cyfoeth a Thlodi: Deall pam mae angen cydraddoldeb a chyfiawnder | |
| Dadlau | Cyfnod Allweddol 3 | SGILIAU - Cyfathrebu: Mynegi barn a’i chyfiawnhau mewn trafodaethau a dadleuon |
| Cyfnod Allweddol 4 | SGILIAU – Cydweithio ag eraill: Bod yn gadarn a chydnabod barn eraill yr un pryd | |
| Ôl-16 | SGILIAU - Meddwl: Werthuso gwybodaeth a syniadau croes i’w gilydd yn feirniadol er mwyn gallu dehongli tueddiadau, dibynadwyedd a dilysrwydd | |
| Inclusion: Sgiliau Allweddol/animeiddio | Cyfnod Allweddol 4 | Dewisiadau a Phenderfyniadau: SGILIAU - Cyfathrebu:
|
| Cynghorau ysgol / cyfranogi democrataidd | Cyfnod Allweddol 2 | SGILIAU – Cydweithio ag eraill: Cydweithio a chydweithredu i ddatrys problemau |
| Cyfnod Allweddol 4 | SGILIAU – Cydweithio ag eraill: Ystyried y broses o gyfranogi | |
| Athroniaeth i Blant | Cyfnod Allweddol 2 | SGILIAU - Meddwl: Nodi, disgrifio a dechrau egluro patrymau a chydberthnasau |
| Cyfnod Allweddol 4 | SGILIAU - Meddwl: Ofyn cwestiynau sy’n annog atebion a chyfres o gwestiynau | |
| Model Cynulliad Cenedlaethol Cymru | Cyfnod Allweddol 4 | SGILIAU - Meddwl: Rhoi ystyriaeth feirniadol i faterion sy’n effeithio ar y dyfodol |
| Ôl-16 | Dewisiadau a Phenderfyniadau: Dangos ymgysylltiad gweithredol yn y gymuned | |
| Senedd Ieuenctid Ewropeaidd | Ôl-16 | SGILIAU - Cyfathrebu: Gwerthuso dadleuon llafar ac ysgrifenedig yn feirniadol Dewisiadau a Phenderfyniadau: Deall natur gydberthynol systemau gwleidyddol-gymdeithasol a systemau economaidd |
| Cynhadledd Un Byd | Cyfnod Allweddol 2 | Hunaniaeth a Diwylliant: Gwerthfawrogi’r ffaith eu bod yn ddinasyddion mewn byd sy’n llawn o gydgysylltiadau; deall gwerthoedd diwylliannol/chredoau crefyddol |
| Ymweliadau / gweithdai ysgolion ar thema: | ||
| Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol | Cyfnod Allweddol 4 | Dewisiadau a Phenderfyniadau: Ymddiddori yn y ffordd y mae materion byd-eang a materion cyfoes yn effeithio arnynt hwy |
| Hawliau dynol a hawliau plant | Cyfnod Allweddol 2 | Cyfoeth a Thlodi: Deall bod gan bobl yr hawl i ddisgwyl bod eu hanghenion sylfaenol yn cael eu diwallu |
| Tlodi a Nodau Datblygiad y Mileniwm | Cyfnod Allweddol 3 | Cyfoeth a Thlodi: Feithrin ymdeimlad o degwch a chyfiawnder o ran defnyddio adnoddau a chyfoeth |
| Datblygiad cynaliadwy | Cyfnod Allweddol 4 | Cyfoeth a Thlodi: Defnydd a Gwastraff: |
| Y Cenhedloedd Unedig a chydberthynas y gwledydd | Ôl-16 | SGILIAU – Cydweithio ag eraill: Hyrwyddo syniad drwy safiad neu safbwynt |
| Yr Undeb Ewropeaidd | Ôl-16 | Dewisiadau a Phenderfyniadau: Bod angen cydweithio rhyngwladol |
| Ffoaduriaid a cheiswyr lloches | Cyfnod Allweddol 2 | Hunaniaeth a Diwylliant: Deall effaith negyddol gwahaniaethu a rhagfarn |
Cysylltiadau
Cliciwch ar enwau’r categorïau neu’r cysylltiadau er mwyn edrych arnynt. Bydd hofran dros y cysylltiadau’n dangos rhagor o wybodaeth os oes rhagor ar gael.
Cysylltiadau:
-
ActionAid Schools
Adnoddau gan y rhwydwaith ymgyrchu gwrth-dlodi. -
Addysg Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Gwefan ddwyieithog yn rhestru sefydliadau yng Nghymru sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer y rhan hon o'r cwricwlwm. -
CAFOD
Adnoddau addysgiadol gan yr Asiantaeth Gatholig dros Ddatblygu Tramor. -
Canolfan Addysg Byd
Sefydliad wedi'i leol ym Mangor sy'n hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru. -
Cool Planet (Oxfam)
Adnoddau ar faterion byd-eang i athrawon ac i fyfyrwyr. -
Cyfanfyd
Sefydliad ambarel ar gyfer addysg dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru. -
Cyswllt Ysgolion
Gwefan sy'n helpu plant 7-11 oed i ddysgu am fywydau plant mewn gwledydd eraill. -
Cysylltiadau Byd-eang
Canolfan adnoddau a hyfforddi wedi'i lleoli yn Sir Benfro. -
Dyddiau ac wythnosau rhyngwladol
Cyfle i ganoli sylw disgyblion/myfyrwyr trwy gyfrwng dyddiau i goffáu gwahanol bynciau, fel Diwrnod Rhyngwladol Rhyddid y Wasg (3 Mai) a Diwrnod Rhyngwladol AIDS (1 Rhagfyr). -
Fforwm ADCDF De-ddwyrain Cymru
Fforwm i ysgolion ym Mlaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. -
GLADE
Y Ganolfan dros Addysg Fyd-eang a Datblygu, sydd â'i phrif swyddfa yng Ngwlad yr Haf yn Lloegr. -
Global Dimension
Arweiniad at adnoddau addysgu byd-eang i bob oed ac mewn nifer o feysydd pwnc. -
Global Gang (Cymorth Cristnogol)
Gemau, newyddion a gwybodaeth i helpu disgyblion i ddysgu am fywydau plant mewn gwledydd eraill. -
OneWorld UK
Gwybodaeth fanwl am hawliau dynol a datblygu cynaliadwy, gan gynnwys canllawiau i wahanol bynciau ac i wahanol wledydd. -
PEDEC
Sefydliad wedi'i leoli ym Mhowys sy'n cefnogi addysg dinasyddiaeth fyd-eang. -
Plan-Ed
Adnoddau addysgu gan y sefydliad datblygu plentyn-ganolog. -
Reading International Solidarity Centre
Adnoddau dysgu ar fasnach, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cyfrifoldeb corfforaethol a rhagor. -
Send My Friend to School
Cyfle i'ch ysgol ddod yn rhan o'r ymgyrch fyd-eang dros Addysg, Global Campaign for Education. -
Tide Global Learning
Rhwydwaith o athrawon ac addysgwyr sy'n ymddiddori yn yr agwedd fyd-eang ar addysg. -
togetherTV
Storïau fideo gan bobl yn y byd sy'n datblygu, yn eu geiriau eu hunain. -
UNICEF Teacherzone
Yn cynnwys gwybodaeth am Wobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau ac adnoddau yn canolbwyntio ar hawliau plant. -
Wythnos Un Byd
Cyfle blynyddol i ddisgyblion ffocysu ar faterion amrywiaeth a chyfiawnder.