Cyflwyniadau i’r modiwlau

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o bob un o’r prif fodiwlau gwaith yn Dinasyddiaeth Heddiw. I gael mynediad llawn y gweithgareddau eu hunain, cliciwch yma.

 

Cyfnodau Allweddol 1 & 2

Modiwl 1: Pobl a’u Cymunedau

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar berthynas disgyblion â’u cyd-ddisgyblion, eu hysgol a’r gymuned ehangach. Mae’r gweithgareddau wedi eu cynllunio i gael disgyblion yn trafod materion yn cynnwys: Beth yw cymuned? I ba gymunedau ydw i’n perthyn? Beth yw fy rôl yn y cymunedau dwi’n perthyn iddynt? Mae CEWC-Cymru hefyd wedi bod yn gweithio i ddatblygu cymunedau ysgol gan ddefnyddio meddwl beirniadol, ac mae rhai sesiynau blasu o’n pecyn Dinasyddion sy’n Meddwl ar gael gyda’r modiwl hwn.

Modiwl 2: Ein Hawliau

Yn y modiwl hwn, mae disgyblion yn canolbwyntio ar eu hawliau (gan ddefnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn). Maen nhw hefyd yn cael eu hannog i feddwl am y cyfrifoldebau sy’n dod law yn llaw â’r hawliau hynny, ac i ystyried sut i ddefnyddio’r wybodaeth hon yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Modiwl 3: Gwahanol Bobl

Mae’r modiwl hwn yn annog disgyblion i ddathlu gwahaniaethau o fewn eu dosbarth a’u cymuned. Mae’n eu gwahodd i archwilio gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol, ac i feddwl am y manteision o gael cymysgedd o ddoniau a phersonoliaethau o fewn grŵp. Ar ben hyn, mae’n edrych ar achosion gwrthdaro ac yn annog disgyblion i edrych ar wrthdaro o’r ddwy ochr.

Modiwl 4: Dweud ein Dweud

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar ddisgyblion i gyfranogi wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae’n annog disgyblion i weithio gyda’i gilydd ac i ddatrys problemau’n gydweithredol. Drwy ddatblygu’r sgiliau hyn drwy gyfrwng ABCh neu wersi eraill, gall disgyblion fod wedi eu paratoi’n well ar gyfer dewis cynrychiolwyr y cyngor ysgol a defnyddio’u cynghorau ysgol yn fwy effeithiol.

 

Cyfnodau Allweddol 3 & 4

Modiwl 1: Hawliau a Chyfrifoldebau

Mae’r modiwl hwn yn annog myfyrwyr i ystyried eu hawliau a’u cyfrifoldebau, gyda sesiynau’n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Ar ôl sefydlu beth yw hawliau a chyfrifoldebau, gofynnir i fyfyrwyr gymhwyso’r wybodaeth hon i’w dosbarth, eu hysgol a’u cymuned.

Modiwl 2: Amrywiaeth

Mae’r modiwl hwn yn annog disgyblion i ddathlu gwahaniaethau o fewn eu dosbarth, eu cymuned a’r byd, ac i ddatblygu strategaethau i ddelio gyda barn pobl eraill mewn modd adeiladol.

Modiwl 3: Democratiaeth

Yn y modiwl hwn mae’r disgyblion yn trafod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sut mae’n gweithio a sut mae’n cael ei ethol. Mae hefyd yn annog myfyrwyr i feddwl am y broses o ddewis cynrychiolydd, a sut y gallant gymryd rhan mewn democratiaeth cyn cyrraedd oedran pleidleisio.

Modiwl 4: Cyfranogi Gweithredol

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i annog myfyrwyr i weld y ‘darlun mawr’: hynny yw, i’w cael i feddwl am gyfranogi y tu allan i’r ysgol. Mae’r gweithgareddau’n mynd i’r afael â materion pwysig megis datblygiad cynaliadwy a chyfranogiad gweithredol yn eu cymunedau lleol. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau i gael myfyrwyr i ddatblygu prosiectau lleol ac i ymgyrchu eu hunain. Gellir defnyddio’r modiwl hwn hefyd i hyfforddi cyngor ysgol i weithio yn y gymuned ehangach.