Rhestr o dermau allweddol
Dyma restr o dermau sy’n cael eu defnyddio ym maes addysg dinasyddiaeth. Mae rhai termau’n cael eu defnyddio’n gydgyfnewidiol hyd yn oed gan arbenigwyr.
ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol)
Mae ABCh wedi bod yn elfen statudol o gwricwlwm cenedlaethol Cymru ers 2003. Mae’n cynnwys popeth y mae ysgol yn ei wneud – mewn gwersi arunig neu fel arall – i hyrwyddo datblygiad personol a chymdeithasol disgyblion. Mae ABCh yn cynnwys themâu addysg dinasyddiaeth, yn ogystal â meysydd megis addysg iechyd a rhyw, arweiniad galwedigaethol a datblygiad ysbrydol. Gellir dod o hyd i arweiniad yn y Fframwaith ABCh cenedlaethol ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1-4.
Addysg ar Ddatblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)
Yn hytrach na bod yn gydran o’r cwricwlwm, mae ADCDF yn agwedd tuag at addysg sy’n cynnwys y cwricwlwm cyfan a rheolaeth ysgolion. Mae’n hyrwyddo cysyniadau megis cyd-ddibyniaeth, amrywiaeth a datrys gwrthdaro. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ADCDF, neu edrychwch sut mae CEWC-Cymru yn helpu ysgolion i ddosbarthu ADCDF.
Addysg datblygiad
Term hŷn, sydd wedi ei ddisodli gan fwyaf gan Addysg ar Ddatblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Addysg dinasyddiaeth / addysg dinasyddiaeth fyd-eang
Mae CEWC-Cymru’n defnyddio’r term hwn i gwmpasu popeth y mae ysgolion yn ei wneud i annog pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithredol yn eu cymunedau lleol, cenedlaethol neu fyd-eang. Yn Lloegr, mae Addysg Dinasyddiaeth yn bwnc penodol yn y cwricwlwm.
Athroniaeth i Blant
Dull o ddatblygu sgiliau meddwl pobl ifanc drwy sefydlu ‘cymuned ymchwilio’ yn y dosbarth. Ewch i’r adran ar feddwl beirniadol am ragor o wybodaeth.
Cyngor ysgol
Corff democrataidd sy’n helpu i benderfynu ar bolisïau a datblygiad ysgolion. Ers Tachwedd 2006, mae’n ofyniad cyfreithiol i ysgolion yng Nghymru sefydlu cyngor sy’n cymryd barn pobl ifanc i ystyriaeth. Mae CEWC-Cymru yn gallu cefnogi eich cyngor ysgol.
Dinasyddiaeth fyd-eang
Y syniad ei bod hi’n bosibl hefyd i weithredu fel dinesydd o’r byd, yn ogystal â bod yn ddinesydd eich cymuned leol neu’ch cenedl. Mae dinasyddiaeth fyd-eang yn cydnabod fod pobl mewn gwahanol wledydd yn fwyfwy gysylltiedig â’i gilydd drwy fasnach, cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth.
Dinasyddiaeth weithredol
Os yw bod yn ddinesydd yn golygu perthyn i gymuned, yna mae dinasyddiaeth weithredol yn golygu cymryd rhan i ffurfio’r gymuned honno. Gall y gymuned olygu eich ysgol, eich tref, Cymru, y DU neu’r byd.
Sgiliau meddwl
O 2008 bydd cwricwlwm Cymru’n galw ar ysgolion i ddatblygu sgiliau meddwl, sy’n cynnwys meddwl beirniadol a gwerthuso. Mae sawl dull ar gael i wella sgiliau meddwl, yn cynnwys Athroniaeth i Blant.